Yn ôl Adran 36 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 a Rheol Sefydlog 2, mae’n ofynnol i’r Senedd gynnal a chyhoeddi Cofrestr Buddiannau Aelodau o’r Senedd.
Mae'n ofynnol i'r Aelodau gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol cyn pen wyth wythnos ar ôl tyngu'r llw neu roi cadarnhad a hefyd cofrestru unrhyw newidiadau i'r buddiannau hynny cyn pen pedair wythnos. Mae Adran 36(7)(a) o Deddf Llywodraeth Cymru yn pennu ei bod yn drosedd i unrhyw Aelod gymryd rhan yn nhrafodion y Senedd heb gofrestru unrhyw fuddiannau perthnasol fel y nodir yn yr Atodiad i Reol Sefydlog 2.
Mae hefyd yn ofynnol o dan Reol Sefydlog 4 i Aelodau gofnodi’r amser y maent yn ei dreulio yn ymwneud â gweithgarwch cofrestradwy; ac o dan Reol Sefydlog 5 i gofnodi eu haelodaeth o gymdeithasau. Caiff manylion unrhyw beth a gofnodir o dan Reolau Sefydlog 4 a 5 eu cynnwys yn y Gofrestr o Fuddiannau’r Aelodau (er nad ydynt yn dod o dan ofynion Deddf Llywodraeth Cymru).
Cyfrifoldeb yr Aelodau yn unig yw cydymffurfio â’r dyletswyddau’n ymwneud â chofrestru a datgan buddiannau, a dylid gwneud hyn yn unol â’r Canllaw ar Gofrestru, Datgan a Chofnodi Buddiannau'r Aelodau. Gall Aelodau hefyd gael cyngor gan y Cofrestrydd Buddiannau’r Aelodau. Dylid cofrestru drwy lenwi’r Ffurflen Cofrestru a Chofnodi Buddiannau.
Archwilio’r Gofrestr
Cedwir Cofrestr Buddiannau’r Aelodau yn y Swyddfa Gyflwyno. Mae’n agored i’r cyhoedd ei harchwilio yn y Swyddfa Gyflwyno ei hun yn ystod ei horiau agor. Gellir trefnu bod copïau o fanylion unigol ar gael ar gais.
Cofrestr y Chweched Senedd
- Rhys ab Owen AS
- Mick Antinow AS
- Mabon ap Gwynfor AS
- Rhun ap Iorwerth AS
- Natasha Asghar AS
- Hannah Blythyn AS
- Dawn Bowden AS
- Jayne Bryant AS
- Cefin Campbell AS
- Hefin David AS
- Alun Davies AS
- Andrew R T Davies AS
- Gareth Davies AS
- Paul Davies AS
- Jane Dodds AS
- Mark Drakeford AS
- James Evans AS
- Rebecca Evans AS
- Janet Finch-Saunders AS
- Luke Fletcher AS
- Peter Fox AS
- Heledd Fychan AS
- Russell George AS
- Vaughan Gething AS
- Tom Giffard AS
- John Griffiths AS
- Lesley Griffiths AS
- Llyr Gruffydd AS
- Siân Gwenllian AS
- Mike Hedges AS
- Vikki Howells AS
- Altaf Hussain AS
- Jane Hutt AS
- Huw Irranca-Davies AS
- Mark Isherwood AS
- Joel James AS
- Julie James AS
- Delyth Jewell AS
- Elin Jones AS
- Laura Anne Jones AS
- Samuel Kurtz AS
- Jeremy Miles AS
- Darren Millar AS
- Eluned Morgan AS
- Julie Morgan AS
- Sarah Murphy AS
- Lynne Neagle AS
- Peredur Owen Griffiths AS
- Rhianon Passmore AS
- Adam Price AS
- Jenny Rathbone AS
- David Rees AS
- Sam Rowlands AS
- Jack Sargeant AS
- Ken Skates AS
- Carolyn Thomas AS
- Lee Waters AS
- Joyce Watson AS
- Buffy Williams AS
- Sioned Williams AS
Cofrestr wedi'i chrynhoi
Yn ogystal â chofrestrau unigol yr Aelodau, sydd i'w gweld drwy ddilyn y lincs uchod, mae cofrestrau'r holl Aelodau bellach yn cael eu cyhoeddi fel un ddogfen unwaith ym mhob tymor y Senedd. Mae pob cofrestr wedi'i chrynhoi'n rhoi cipolwg ar fuddiannau a gofrestrwyd gan bob Aelod rhwng dechrau'r Chweched Senedd a'r dyddiad a nodir.
Archif
- Senedd Cymru: Cofrestr y Bumed Senedd 2016-2021 (PDF, 3.63MB)
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr y Pedwerydd Cynulliad 2011-2016 (PDF, 739KB)
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr y Trydydd Cynulliad 2007-2011 (PDF,466KB)
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr yr Ail Gynulliad 2003-2007 (PDF, 362KB)
- Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cofrestr y Cynulliad Cyntaf 1999-2003 (PDF, 307KB)